Hanes
Albwm hen luniau
Albwm lluniau Eisteddfodau
Bu'r Côr yn cystadlu mewn nifer o wyliau cerdd dros y blynyddoedd gan gynnwys
Killarney a Sligo yn yr Iwerddon ac Eindhoven yn yr Iseldiroedd, ac ar deithiau i wneud cyngherddau
yng Nghanada, Paris ac yng ngefeilldref Rhuthun, sef Briec yn Llydaw. Ym mis Ebrill 2017, bu'r Côr
yn cystadlu yn yr ŵyl Ban Geltaidd yn Carlow yn Iwerddon gan ddychwelyd adre efo dwy wobr gyntaf!
Albwm lluniau teithiau
Un o uchafbwyntiau yn hanes y Côr oedd perfformio a recordio gwaith comisiwn Robat Arwyn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2001, sef Atgof o'r Sêr, gyda Bryn Terfel a Fflur Wyn. Yn 2003 cafodd y côr wahoddiad i ffurfio côr unedig gyda Chôr Eifionydd a Chantorion Sirenian ar gyfer recordiad teledu o Meseia Handel yn y Gymraeg ar gyfer S4C, yng nghwmni'r unawdwyr Bryn Terfel, Eirian James, Shan Cothi a chyn aelod o'r Côr, sef Rhys Meirion. Gwahoddodd Rhys y Côr i gyd-ganu tair cân ar ei CD Pedair Oed (2004) yn ogystal â charol newydd, Un Enaid Bach, ar CD Nadolig Newydd yn 2006. Yn 2006 hefyd, fel rhan o ddathliadau'r côr yn 25 oed, recordiwyd Er Hwylio'r Haul, gwaith gan Robat Arwyn i goffau Llywelyn ein Llyw Olaf.