logo'r Côr
Cor Rhuthun
Cor Rhuthun

Robat Arwyn

Robat Arwyn

Yn enedigol o Dalysarn, Dyffryn Nantlle, graddiodd Robat Arwyn mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1980 cyn ennill Diploma mewn Llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Aberystwyth yn 1981. Bellach mae'n Brif Lyfrgellydd Cyngor Sir Ddinbych, ac yn byw yn Rhuthun gyda'i wraig, Mari a'i blant, Elan a Guto.

Mae'n aelod o Gôr Rhuthun a'r Cylch ers 1981, ac yn cyfeilio i'r côr a chyfansoddi ar ei gyfer ers 1987. Yn dilyn marwolaeth Morfydd Vaughan Evans ym mis Hydref 2007, penodwyd Arwyn yn arweinydd y Côr.


Morfydd Vaughan Evans

Morfydd Vaughan Evans

Ganwyd Morfydd Vaughan Evans ym Mhentrecelyn ger Rhuthun. Wedi gadael ysgol aeth i weithio gyda'r Weinyddiaeth Amaeth yn Rhuthun a bu yno nes cyrraedd oedran ymddeol. Cyfarfu â Penri ac wedi priodi, symud i fyw i Rhuthun. Yno bu'n rhoi gwersi piano a gwersi canu i laweroedd o blant y fro dros nifer helaeth o flynyddoedd. Ond gwaith mawr ei bywyd mae'n siwr oedd sefydlu Côr Ieuenctid Rhuthun yn 1981. Aeth y Côr o nerth i nerth dan ei harweinyddiaeth gan gystadlu mewn eisteddfodau ledled Cymru a gwyliau cerdd dramor, yn ogystal â chymryd rhan mewn cannoedd o gyngherddau.

Yn drist iawn, fe gollon ni Morfydd ym mis Hydref 2007 ac fel y dywedodd Iwan Vaughan Evans mewn teyrnged iddi yn y gwasanaeth i ddathlu ei bywyd yng Nghapel y Tabernacl -

"Does dim amheuaeth am ei dawn gerddorol. Chafodd hi erioed radd mewn cerddoriaeth na hyfforddiant proffesiynol, ond roedd hi'n gwybod beth oedd canu a beth oedd sain dda mewn côr ... Cafodd lawer o ganmoliaeth gan feirniaid yng Nghymru a thramor am ansawdd a chynhesrwydd sain ac am ei dehongliad o ddarnau cerddorol. Pa syndod felly iddi gael ei hurddo â'r wisg werdd yn gyntaf ac yna â'r wisg wen gan yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 2004. A pha syndod chwaith iddi dderbyn Gwobr Gorffa T H Parry-Williams yn Eisteddfod Meifod yn 2003 am ei chyfraniad i fywyd a diwylliant ei hardal."

"Mi fydd na wacter ar ei hôl a hiraeth ymysg ei theulu a'i chydnabod, ac mi fydd canu corawl yng Nghymru yn dlotach o'i cholli. Ond fydd neb ohonom yn ei anghofio. Does dim dwywaith fod Morfydd wedi llwyddo i wneud canu mewn côr yn rhywbeth cwl ymysg pobl ifanc. Byddwn yn cofio amdani fel chwaer arbennig, priod ffyddlon, cerddor ac arweinyddes amryddawn ac fel ffrind arbennig iawn iawn."

I'r gân Morfydd gyfrannodd; - rhoi oriau
I'r werin o'i gwirfodd;
'Nawr rhown ein diolch yn rhodd,
Rhown iddi'r hyn a haeddodd.

(Englyn gan Elwyn Wilson Jones ar achlysur gwobrwyo Morfydd gyda thlws T H Parry Williams)

© Côr Rhuthun 2020
Gwefan gan Mari Wynne Jones