Cyfeilyddion
Dros y blynyddoedd mae'r côr wedi cael saith cyfeilydd, sef Beryl Lloyd Roberts, Glenys Roberts, Eirian Williams, Robat Arwyn, Nerys Davies, Robert Parry a Mair Jones.
Unawdwyr
        		 			Eto, bu'r Côr yn ffodus iawn o gael aelodau oedd yn abl iawn i gymryd rhannau unigol yn y cyngherddau, gan gynnwys Nan Vaughan Edwards, Teresa Wynne, Delyth Geraint, Nia Tudur a Rhys Meirion. Ar hyn o bryd mae dau aelod o'r Côr sy'n enillwyr cenedlaethol yn cymryd y rhannau unigol, sef
											 Kate Griffiths
											 Daw Kate o Fryn Saith Marchog ger Corwen.  Mae hi'n ferch brysur iawn, yn fam i dri o blant, yn canu mewn cyngherddau 
											 ar draws Cymru ac yn cystadlu mewn eisteddfodau mawr a bach.  Enillodd yr Unawd Soprano yn yr Eisteddfod Genedlaethol
											 yn 2006 yn Abertawe, yn Y Bala yn 2009 ac ym Mlaenau Gwent yn 2010.
	    								 
											 Meirion Wyn Jones
											 Ffarmio yn Llangynhafal mae Mei wrth ei waith bob dydd ac mae'n dad i bedwar o blant.  Mae Mei yn enillydd cyson
											 mewn eisteddfodau ledled Cymru ac mae hefyd wedi bod ar lwyfan y Genedlaethol ar yr
											 unawd Bariton a'r Hen Ganiadau yn y gorffennol.  Ond yn 2008, yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch, aeth gam ymhellach pan
											 ddaeth yn gyntaf yn y gystadleuaeth Unawd Bas a mynd ymlaen wedyn i ennill y Rhuban Glas am unawdydd gorau'r eisteddfod. 
											 
Arweinydd Cyngherddau
        		 			Iwan Vaughan Evans ydi arweinydd cyngherddau'r Côr. Mae Iwan yn byw yn Rhuthun, yn dad i dair o ferched ac wedi ymddeol fel pennaeth Ysgol Bro Aled, Llansannan. Dros y blynyddoedd mae wedi arwain cannoedd o gyngherddau yn ei ffordd hamddenol, dihafal ei hun ac yn cyflwyno'r Côr a'r caneuon mewn modd di-lol gyda joch da o hiwmor.